Format: Package
ISSN:
Additional Information:
Ers ei sefydlu yn 1950, Llên Cymru yw’r prif gylchgrawn academaidd yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Mae’n cyhoeddi ymdriniaethau academaidd o’r safon uchaf yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg o unrhyw gyfnod, ar ffurf erthyglau ysgolheigaidd neu feirniadol, neu olygiadau o destunau. Cyhoeddir hefyd adolygiadau ar gyhoeddiadau yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys adolygiadau ar gyfrolau perthnasol a gyhoeddwyd mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg. Mae’r cylchgrawn hefyd yn cynnwys adran nodiadau ar gyfer cyfraniadau byrion. Bu’r Athro Gruffydd Aled Williams yn olygydd ar Llên Cymru ers 1997, gan drosglwyddo awenau’r olygyddiaeth i Dr Dylan Foster Evans a Dr Siwan Rosser, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, o rifyn 36 ymlaen.
Founded in 1950 as a Welsh-language journal, Llên Cymru’s editorial purpose is to publish the highest quality academic research on Welsh literature of any period, and welcomes research in the form of both scholarly and opinion-based articles. Having edited the journal from volume 20 to volume 35, Professor Gruffydd Aled Williams transferred editorship in 2013 to Dr Dylan Foster Evans, Dr E. Wyn James and Dr Siwan Rosser, all of the School of Welsh at Cardiff University. The journal, published annually, includes full-length articles, a notes section for short contributions, and book reviews. Typically, articles can incorporate research on early Welsh poetry, twentieth-century Welsh literature and traditional Welsh folk tales.
Existing Subscribers
You may renew your existing subscriptions here by quoting your Renewal/Proforma Number and the corresponding Access Key as shown on the invoice.